Landscape                                                                                                                                    

 

DATGANIAD I’R WASG

Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Gynghorau Cymuned - Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

 

Mae Nick Ramsay AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi gwneud y datganiad a ganlyn mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ‘Llywodraethu a Rheolaeth Ariannol mewn Cynghorau Cymuned 2015-16’.

 

Dywedodd Mr Ramsay:

 

“Fel yr haen o lywodraeth sydd agosaf at y cymunedau y maent yn eu cynrychioli, mae gan gynghorau cymuned ran gynyddol bwysig i’w chwarae wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

 

“Maent yn rheoli symiau sylweddol o arian cyhoeddus a bydd hyn yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd nesaf. Mae’n hanfodol bod gan y cynghorau hyn drefniadau cadarn ac effeithiol ar waith o ran rheolaeth ariannol a llywodraethu.

 

“Er bod llawer o gynghorau wedi gwneud trefniadau i’r perwyl hwn, mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn dangos bod llawer o waith i’w wneud i godi safonau rheolaeth ariannol a llywodraethu ar draws y sector.

 

“Rwy’n disgwyl y bydd y cynghorau a’r cyrff sy’n eu cynrychioli yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i ddeall y materion a nodwyd yn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol a mynd i’r afael â nhw, ac i sicrhau bod y trefniadau angenrheidiol yn eu lle i gefnogi rheolaeth ariannol effeithiol gan bob cyngor cymuned.”